Mae ein Swyddfa Digwyddiadau a Ffilm yn lle ar gyfer pob digwyddiad ac ymholiad ffilmio.
O 1 Ebrill 2025 mae Polisi Digwyddiadau newydd ar waith i arwain trefnwyr digwyddiadau a ffilmio ar ddefnyddio tir y Cyngor.
Rydym hefyd yn rhoi cyngor i drefnwyr digwyddiadau lle cynhelir y digwyddiad ar dir nad yw'n eiddo i'r Cyngor. Bydd ein tîm yn eich cefnogi trwy broses y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch os oes angen.
Digwyddiadau a ffilmio
Mae Castell-nedd Port Talbot yn cynnig amrywiaeth eithriadol o gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau a ffilmio /cynhyrchu.
Mynyddoedd dramatig a dyffrynnoedd llethrog. Rhaeadrau a thraethau eang. Tirweddau diwydiannol a lleoliadau trefol. Mae gan CNPT y cyfan.
Mae ein hamgylcheddau cyferbyniol yn darparu’r amrywiaeth berffaith o safleoedd ar gyfer:
- gosodiadau
- cefnlenni
- cynulliadau
Cysylltiadau trafnidiaeth
Mae gennym gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog, gan gynnwys:
- mynediad hawdd i'r M4
- agosrwydd at Abertawe a Chaerdydd
- gorsafoedd trên hygyrch
Mae Castell-nedd Port Talbot yn ganolfan berffaith ar gyfer ffilmio, ymwelwyr a threfnwyr fel ei gilydd.
Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch
Mae gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch arbenigedd mewn rheoli digwyddiadau mewnol ac allanol.
Bydd y grŵp yn helpu trefnwyr digwyddiadau drwy:
- eich arwain at wasanaethau perthnasol
- rhoi gwybod i chi am unrhyw ofynion, rheoliadau a chyfrifoldebau y mae'n rhaid i chi eu bodloni
- rhoi sylwadau a chynghori ar geisiadau digwyddiadau
Ymweliadau safle
Byddwn yn ymweld â digwyddiadau yn ystod y broses sefydlu. Mae hyn er mwyn asesu cydymffurfiaeth â:
- cais y digwyddiad
- asesiad risg
- unrhyw drwyddedau a roddwyd ar gyfer y digwyddiad
Cysylltwch â ni
Ar gyfer digwyddiadau, e-bostiwch specialevents@npt.gov.uk
Ar gyfer ffilmio, e-bostiwch filming@npt.gov.uk
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich ymholiad, byddwn yn cysylltu â chi i ddarganfod mwy am eich cynigion. Yna byddwn yn gweithio gydag adrannau eraill y Cyngor i nodi beth yw’r canlynol:
- caniatadau y bydd eu hangen arnoch
- mesurau diogelwch y bydd angen i chi eu rhoi ar waith